Mae’r gweithdy hwn yn rhan o gyfres “Un i Lawer” Busnes Cymdeithasol Cymru.
Dyddiad: 09/09/2026
Amser: 12:30 – 14:00
Lleoliad: Ar Zoom (cofrestrwch gan ddefnyddio’r ffurflen isod!)
Beth yw ymgysylltu ystyrlon a sut allwch chi ei ddefnyddio i lunio’r gwaith rydych chi’n ei wneud fel menter gymdeithasol?
Yn y sesiwn hon, byddwn ni’n archwilio pam mae ymgysylltu cymunedol gwirioneddol a pharhaus mor bwysig i fusnesau sy’n cael eu gyrru gan bwrpas, yn edrych ar ystod o ddulliau wyneb yn wyneb ac ar-lein, ac yn trafod sut a phryd i ymgysylltu â gwahanol gynulleidfaoedd a rhwydweithiau ar wahanol faterion.