Galwad am Fentrau Cymdeithasol a Mentoriaid ar gyfer Cymorth Mentora Thematig, Grŵp ac 1:1

Medi 7, 2026

Hoffem glywed gan fentrau cymdeithasol sydd eisoes wedi’u hymgorffori, ac sydd â diddordeb mewn derbyn pecyn o gymorth i ddatblygu eich syniadau a’ch potensial i dyfu o amgylch thema benodol.

Rydym yn cynnig mentora 1:1 i ddatblygu cynllun gweithredu sy’n nodi eich blaenoriaethau ar gyfer twf a datblygiad eich menter, cymorth 1:1 mewn un o’r meysydd blaenoriaeth hynny, a chyfle i gwrdd â mentrau eraill sydd â diddordebau tebyg ar gyfer cymorth grŵp (o amgylch blaenoriaethau cyffredin), rhwydweithio a thrafodaethau dan arweiniad eich Mentor.

A yw sector eich menter neu eich syniad ar gyfer twf yn perthyn i un o’r themâu hyn?

  1. Iechyd a Llesiant
  2. Siopau Cymunedol
  3. Ailddefnyddio / Economi Gylchol
  4. Ynni Cymunedol
  5. Diwydiannau Creadigol, y Celfyddydau ac Adloniant
  6. Hybiau Cymunedol
  7. Tyfwyr Bwyd (masnachol ar raddfa fach) neu Hybiau Bwyd (diogelwch bwyd)

Byddwn yn gallu cefnogi meysydd thematig lle mae 4 neu fwy o sefydliadau yn dod ymlaen i ofyn am gymorth. Os byddwch yn llwyddiannus, bydd angen i chi ymrwymo amser i gwrdd â’ch mentor yn unigol, yn ogystal â chwrdd â’r mentrau eraill yn eich grŵp thematig, rhwng mis Hydref a mis Ionawr.

Cysylltwch â ni i gofrestru eich diddordeb erbyn 9yb, dydd Iau 8 Hydref 2026.

Llenwch ein ffurflen ar y we: dtawales.org.uk/contact-us/

Neu anfonwch e-bost atom: sbw@dtawales.org.uk

Cofiwch gynnwys enw eich sefydliad, ble rydych wedi’ch lleoli, pa thema y mae gan eich menter ddiddordeb mewn cael cymorth ynddi, ychydig o wybodaeth gefndirol am eich sefydliad a beth yr hoffech ei gael o’r cymorth.

Hoffech chi ddod yn fentor cyflogedig gyda ni?

Os oes gennych brofiad uniongyrchol o arwain datblygiad menter yn un o’r sectorau hyn ac os hoffech gefnogi eraill, cysylltwch â ni os gallwch gynnig tua hanner diwrnod yr wythnos rhwng mis Hydref a mis Ionawr.

Byddwch yn cefnogi tua 4 menter drwy fentora unigol a grŵp, a bydd angen i chi fod yn drefnus wrth drefnu cyfarfodydd ar-lein neu wyneb yn wyneb ar gyfer y garfan.

Anfonwch e-bost atom: sbw@dtawales.org.uk

Mae Social Business Wales yn cael ei ddarparu gan gonsortiwm sy’n cynnwys Cwmpas, Cymdeithas Mentrau Datblygu Cymru, Social Firms Wales, UnLtd a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA).