Ased Cymynedol a Drosgwlyddwyd fwyaf Cymru wedi arwyddo’i prydles

dyddiad 29.01.2019

Dywed Cadeirydd Agor Drenewydd, Stuart Owen, “Pleser yw cyhoeddi inni arwyddo prydles 99 mlynedd, felly ar ôl gweithio ar y prosiect ers dwy flynedd, gall Agor Drenewydd fwrw ymlaen gyda’r prosiect, gwerth £1.1 miliwn a gyllidir gan y Gronfa Loteri Fawr, a dechrau gwireddu’r cynlluniau cyffrous ar gyfer y Drenewydd.

Cynllun gweddol syml sydd gan Agor Drenewydd – byddwn yn cyfoethogi’r sylfaen asedau naturiol a galluogi mentrau (preifat a chymdeithasol) newydd i ddatblygu busnesau ym maes Bwyd Lleol, Digwyddiadau a Thwristiaeth, Chwaraeon a Hamdden.
Rydym wedi dechrau rheoli’r tir yn ystod 2018, mewn partneriaeth gyda Chyngor Tref y Drenewydd a Llanllwchaearn, ac wedi torri’r glaswellt yn rheolaidd er mwyn caniatáu i’r tir gael ei ddefnyddio mwy at ddiben hamdden, a bydd ein cynllun pum mlynedd yn cychwyn yn 2019.

Mae cynlluniau i greu pwyntiau mynediad ar gyfer gweithgareddau padlo eisoes ar y gweill, ac rydym wedi derbyn caniatâd cynllunio’n ddiweddar i wella mynediad at yr afon, i helpu cynyddu defnydd o’r afon fel cyrchfan hamdden.
Hefyd eleni, bydd trac BMX arbenigol yn cael ei ddatblygu, a bydd gwaith hefyd yn cychwyn i wella ac ymestyn y parc chwarae i blant.

Edrychwn ymlaen yn fawr at weithio gyda Chyngor Tref y Drenewydd a Llanllwchaearn a’n holl aelodau i ddatblygu’r Drenewydd fel grym economaidd Canolbarth Cymru, a lle gwych i fyw.”

print