Llongyfarchiadau i’n Arloeswyr Cysylltiad Llwyddiannus
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod dau aelod anhygoel, Grange Pavilion ac Cwm Arian Renewable Energy, wedi’u dewis ar gyfer ein rhaglen ddatblygu Arloeswyr Cysylltiad! Cawsom amser caled iawn ar ôl derbyn llawer o geisiadau cryf a dim ond dau grant i’w dyfarnu, ond mae’r grwpiau hyn sy’n canolbwyntio ar y gymuned ar fin mynd â’u gwaith i’r lefel nesaf, ac ni allwn aros i weld yr effaith y byddant yn ei chael.
Gyda chefnogaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae Arloeswyr Cysylltiad yn rhaglen a gynlluniwyd i helpu sefydliadau cymunedol yn y DU i gryfhau cysylltiadau yn eu hardaloedd lleol. Mae’n rhan o fenter Connectors-UK, a ddeilliodd o bron i £1.9 miliwn o arian y Loteri Genedlaethol a roddwyd i Locality (Lloegr), CYD Cymru, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu’r Alban ac Ymddiriedolaethau Datblygu Gogledd Iwerddon i ddod â grwpiau cymunedol ynghyd ar draws y pedair gwlad. Nod y cyfnod ariannu tair blynedd yw helpu sefydliadau lleol i gysylltu, rhannu syniadau, adeiladu gwytnwch, a llunio dyfodol eu cymunedau.
Fel rhan o’r strategaeth hon, bydd 15 grŵp cymunedol – gan gynnwys dau yng Nghymru – yn dod yn Arloeswyr Cysylltiad. Mae’r rhain yn brosiectau peilot sy’n rhoi cynnig ar ffyrdd newydd, beiddgar o feithrin cysylltiadau cryfach yn eu cymunedau. Gyda chymaint o heriau yn wynebu sefydliadau cymunedol ar hyn o bryd, mae’r Arloeswyr yn cael y lle a’r gefnogaeth i roi cynnig ar rywbeth gwahanol – boed yn syniad newydd sbon neu’n sbin newydd ar rywbeth sydd eisoes yn gweithio. Mae’n ymwneud â phrofi, dysgu, a datgloi gwir bŵer cysylltiad. Byddant yn derbyn £20,000 mewn cyllid hyblyg, 12 diwrnod o gefnogaeth gan reolwr perthynas, a chyfleoedd i ddatblygu arweinyddiaeth. Gobeithiwn y bydd y cymorth hwn yn gweithio tuag at gryfhau perthnasoedd, grymuso cymunedau a meithrin tegwch.
Dyma beth sydd gan y sefydliadau llwyddiannus ar y gweill.
Grange Pavilion: Adeiladu ar Sylfaen Cryf
Wedi’i leoli yng Nghaerdydd, mae Grange Pavilion yn lleoliad sy’n cael ei redeg gan ac ar gyfer y gymuned yng nghanol ward fwyaf ethnig amrywiol Cymru, ac un o ardaloedd mwyaf difreintiedig yn economaidd-gymdeithasol y genedl. Yn ystod eu pum mlynedd gyntaf, amcangyfrifwyd gwerth cymdeithasol o £25 miliwn ac enillodd dros 15 o wobrau cenedlaethol a rhyngwladol. Maent wedi gweithio’n galed i ddod yn ganolbwynt cynhwysiant ac ysbryd cymunedol, a nawr maent yn barod i symud i gam nesaf eu taith.
Trwy gwblhau’r rhaglen, mae Grange Pavilion yn anelu at adeiladu ar ei lwyddiant a chreu dyfodol mwy cynaliadwy. Mae’r tîm yn bwriadu mireinio eu harferion strategol a gweithredol wrth iddynt drosglwyddo i Sefydliad Buddiannau Cymunedol (CIO). Bydd yr arian grant yn eu helpu i gryfhau eu sylfaen, gan eu grymuso i barhau i gael effaith barhaol yn eu cymuned. Drwy ddatblygu model busnes mwy cydweithredol gyda mewnbwn cymunedol, maent yn gobeithio sicrhau bod prosiectau’r dyfodol yn cyd-fynd yn agos â’r hyn y mae’r gymuned leol ei angen.
Cwm Arian Renewable Energy: Grymuso Cymunedau Trwy Gysylltiadau Dyfnach
Mae Cwm Arian Renewable Energy (CARE) wedi ymrwymo i rymuso eu cymunedau lleol i greu dyfodol mwy cynaliadwy. Maent yn gweithio ar draws Gogledd-ddwyrain Sir Benfro, De Ceredigion a Gorllewin Sir Gaerfyrddin. Maen nhw’n gobeithio y bydd y rhaglen yn eu helpu i ddatblygu eu cenhadaeth o gydweithio â chymunedau ffermio Cymraeg. Cyflawnir hyn drwy gyd-gynhyrchu prosiectau a sicrhau bod eu lleisiau wrth galon popeth a wnânt. Trwy ddyfnhau perthnasoedd gyda’r grwpiau hyn, mae CARE yn gobeithio creu cydweithrediadau ystyrlon sy’n seiliedig ar flaenoriaethau lleol ac yn mynd y tu hwnt i rwystrau diwylliannol.
Yn ogystal, mae CARE yn bwriadu cryfhau ei rwydwaith trwy gysylltu â sefydliadau a phartneriaid eraill, a fydd yn helpu i rannu adnoddau, alinio ymdrechion, a chynyddu effaith gyffredinol eu gwaith. Maent hefyd am hybu eu presenoldeb ar-lein, i gwneud o’n haws i bobl gymryd rhan a dysgu am y gwaith y maent yn ei wneud.
Rydym yn gyffrous i ddilyn eu teithiau a gweld sut mae eu gwaith yn datblygu yn y misoedd i ddod trwy gydweithio, ac wrth gwrs, gysylltu.

Mae Arloeswyr Cysylltiad yn rhan o Raglen Connectors UK. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae Locality UK wedi derbyn bron i £1.9 miliwn dros dair blynedd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, y cyllidwr cymunedol mwyaf yn y DU. Bydd y cyllid yn cefnogi rhaglen Connectors UK, a ddarperir mewn partneriaeth â DTA yr Alban, CYD Cymru a DT Gogledd Iwerddon. Trwy’r rhaglen byddwn yn dod â sefydliadau cymunedol lleol at ei gilydd, i adeiladu gwytnwch, rhannu arfer arloesol a siapio dyfodol eu cymunedau.
