Myfyrio ar Ein Hamser yng Nghynhadledd CYD Yr Alban yng Nglasgow
Yn ddiweddar, mynychodd tîm CYD Cymru gynhadledd flynyddol ein sefydliad chwaer, a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Caledonian Glasgow. Gyda dros 300 o gynrychiolwyr yn bresennol, roedd y digwyddiad deuddydd yn gasgliad bywiog o grwpiau cymunedol, ymarferwyr ac arweinwyr o bob cwr o’r Alban a thu hwnt.
Fel ni, mae CYD Yr Alban yn seiliedig ar aelodaeth ac yn cefnogi ymddiriedolaethau datblygu – sefydliadau dan arweiniad y gymuned sy’n defnyddio menter i gyflawni adfywio cynaliadwy yn eu hardaloedd lleol. Mae eu haelodau’n rhedeg popeth o dai sy’n eiddo i’r gymuned a phrosiectau ynni adnewyddadwy i wasanaethau a chyfleusterau lleol, pob un gyda’r nod o adeiladu cymunedau gwydn, cynhwysol a hunangynhaliol.
Roeddem wrth ein bodd yn cefnogi ein haelodau Lynne (Prif Swyddog Gweithredol) ac Angela (Sylfaenydd a Thrysorydd) o Splott Community Volunteers i fynychu’r gynhadledd gyda chymorth bwrsari. Yn syth ar ôl dathlu pen-blwydd eu helusen yn 10 oed, ymunodd Lynne ac Angela â rhaglen ysbrydoledig o sgyrsiau, gweithdai a chyfleoedd rhwydweithio. “Dysgon ni gymaint, cwrddon ni â llawer iawn o bobl ysbrydoledig a chawsom ni brofi dinas hanesyddol anhygoel. O ran profiadau proffesiynol, roedd hwn yn wych! Bydda i’n dod â’r dysgu yn ôl i Splott,” adroddon nhw.
Agorodd y digwyddiad gyda phrif anerchiad gan y cyn-MSP Andy Wightman, yn archwilio Synnwyr Cyffredin, Lles Cyffredin: Ailadeiladu Democratiaeth. Archwiliodd ei sesiwn gyd-destun hanesyddol yr Alban a’r effaith o gwneud penderfyniadau datganoledig ar lefel y gymuned ar ddemocratiaeth leol.
Yna cymerodd y cynrychiolwyr ran mewn ystod eang o weithdai, yn ymdrin â themâu fel ynni sy’n eiddo i’r gymuned, addasu i’r hinsawdd, ysgrifennu maniffesto, a chyfathrebu effeithiol. Y tu hwnt i’r sesiynau ffurfiol, yr uchafbwynt go iawn oedd y sgyrsiau a gynhaliwyd dros goffi neu ginio – lle’r oedd y bwrlwm a’r egni yn yr ystafell yn siarad am gryfder sector cymunedol yr Alban.
I ni yn CYD Cymru roedd yn gyfle nid yn unig i ddysgu a chysylltu ond hefyd i fyfyrio ar ein rhaglen ddigwyddiadau ein hunain. Er ein bod ni ar hyn o bryd yn hapus i gynnal dwy gynhadledd undydd bob blwyddyn yng Nghymru, rydym ni’n chwilfrydig i glywed gan aelodau a fyddai diddordeb mewn cynulliadau hirach, aml-ddydd yn y dyfodol.
Ar y cyfan, fe wnaethon ni adael Glasgow wedi ein hysbrydoli a’n cyffroi i ddod â syniadau, egni a chysylltiadau newydd yn ôl i Gymru i gryfhau a chefnogi ein cymunedau.
Os ydych chi’n aelod o CYD Cymru, beth am wneud cais am fwrsariaeth i fynychu’r gynhadledd Locality sydd ar ddod yn Lerpwl ar 12fed a 13eg Tachwedd? Cysylltwch â ni i gael gwybod mwy – mae nifer gyfyngedig ar gael.
