Perchnogaeth Gymunedol
Yn gynyddol, gofynnir i gymunedau gymryd tir neu adeiladau neu ystyried ei wneud ar draws Cymru.
Rydym yn cefnogi ystod o weithgareddau i helpu sefydliadau cymunedol i sicrhau bod eu prosiect asedau’n llwyddiannus.
Rydym yn darparu cymorth yn uniongyrchol i ymgeiswyr a grwpiau y dyfernir ariannu iddynt sy’n cymryd rhan yn Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol 2 y Loteri Fawr o dan gontract cymorth gyda’r Loteri Fawr. Mae’r cymorth hwn yn helpu ymgeiswyr i baratoi eu cynlluniau prosiect gan osod eu hachos busnes a’u cynlluniau ar gyfer y safle ar ôl y trosglwyddo. Mae mentora parhaus ar ôl derbyn dyfarniad ariannu CAT2 yn helpu grwpiau i ddatblygu’r ased i’w botensial lawn, gan sicrhau cynaliadwyedd hir dymor.
Cewch wybodaeth bellach am y grwpiau rydym yn gweithio gyda nhw fel rhan o gontract cymorth y Loteri Fawr yma.
Darllenwch flog am ein hymweliad â Sefydliad Glyn Ebwy fel rhan o gontract cymorth rhaglen CAT2.
Fel rhan o’n gwaith ar asedau, rydym wedi datblygu Porth Asedau ar-lein. Mae’r adnodd hwn ar y we yn llywio’r grŵp drwy’r broses o gynnal trosglwyddo asedau oddi wrth corff cyhoeddus i berchnogaeth gymunedol. Cliciwch i gael mynediad i’r Porth Asedau.
Gallwn gefnogi eich prosiect asedau mewn amrywiaeth o ffyrdd:
Cyn i chi drosglwyddo’r ased
Eich helpu i gynllunio? Angen astudiaeth ddichonoldeb, cynllun busnes, neu gynllun strategol ar gyfer eich ased?
Eich helpu trwy’r broses drosglwyddo? Ystyriaethau ar gyfer fersiwn ddrafft eich prydles / telerau trosglwyddo? Help i asesu dichonoldeb nid atebolrwydd. Pa wybodaeth fydd ei hangen arnoch ar gyfer eich corff trosglwyddo?
Ar ôl y trosglwyddo
Eich helpu i ddatblygu eich ased ym mherchnogaeth y gymuned mewn ffordd gynaliadwy? Angen lleihau costau rhedeg? Angen adolygu eich gweithrediadau? Angen mireinio eich strategaeth cynhyrchu incwm? Marchnata eich ased ym mherchnogaeth y gymuned.
Trwy ddefnyddio ein Cronfa DTA Cymru o ymarferwyr a datblygwyr asedau profiadol, gallwn roi cymorth i chi y tu allan i’n Rhaglenni Presennol fel Gwasanaeth Ymgynghori