Polisi ac Ymgyrchoedd
Mae DTA Cymru’n anelu at ddylanwadu ar bolisi a newid ar ran ein haelodau a’r sector menter gymunedol yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig, yn nhermau;
- Grymuso a pherchnogaeth gymunedol
- Menter gymunedol a chymdeithasol a datblygu a buddsoddi economaidd lleol
- Datblygu asedau cymunedol a throsglwyddo asedau
- Datblygu cynaliadwy a llesiant
Credwn fod sefydliadau cymunedol lleol yn rhoi atebion i nifer o’r heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cymhleth sy’n wynebu ein cymunedau.
Rydym yn dymuno creu amgylchedd gweithredu a galluogi gwell ar gyfer ymddiriedolaethau datblygu a sefydliadau angor cymunedol eraill. Rydym yn dymuno cefnogi a buddsoddi yn eu gwaith, adnabod gwerth cymdeithasol, amgylcheddol, economaidd a diwylliannol eu gwaith a’u helpu i gryfhau cymunedau gwydn a gweddnewid bywydau pobl leol.
Rydym yn gwneud hyn trwy;
- Hyrwyddo gwaith ein haelodau, arfer da o ran arloesedd ac effeithiau ac ymarferwyr menter gymunedol o’r un meddylfryd
- Ymateb i ymgynghoriadau ac ymgysylltu polisi sy’n berthnasol i’n haelodau
- Cwrdd ag arianwyr a buddsoddwyr i hyrwyddo’r angen am fuddsoddi parhaus yn ein sector
- Diogelu adnoddau ar gyfer rhaglenni newydd sy’n creu cyfleoedd ar ein cyfer ni ac ar gyfer ein haelodau i gymryd camau gweithredu ymarferol a datblygu a gwella ein heffeithiau ar lefel leol.