Lansiwyd pecyn cymorth newydd i helpu tyfwyr bwyd Cymru i gael mynediad at £85 miliwn a werir yn flynyddol gan y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Rhagfyr 3, 2025

Ar hyn o bryd, dim ond 6% o’r cynnyrch ffres a gaiff ei gaffael gan y sector cyhoeddus sy’n dod o Gymru, ond mae’r ddeddfwriaeth a ddaeth i rym ym mis Chwefror 2025 yn cynnig potensial gwirioneddol i gyfoethogi cymunedau lleol drwy ailgyfeirio’r £85 miliwn y mae’r sector cyhoeddus yng Nghymru yn ei wario ar fwyd bob blwyddyn.

Mae Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru (CYD Cymru), ynghyd â’i phartneriaid Robert Owen Community Banking Foundation (ROCBF), Social Farms & Gardens (SF&G) a Lantra, yn falch o lansio pecyn cymorth ac amrywiaeth o adnoddau i gefnogi tyfwyr bwyd Cymru i wneud y mwyaf o’r cyfleoedd o fewn caffael cyhoeddus i werthu eu cynnyrch i mewn i’r cadwyni cyflenwi cyhoeddus.

Mae’r pecyn cymorth yn grymuso tyfwyr ffrwythau a llysiau ar raddfa fach — boed yn dechrau ar eu taith neu eisoes wedi’u sefydlu — i gael mynediad at gadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus. Mae’n darparu cyfres o adnoddau ymarferol i’w helpu i fanteisio ar gyfleoedd i gyflenwi ysgolion, ysbytai, cartrefi gofal a chyfleusterau arlwyo cyhoeddus eraill, lle mae contractau wedi’u dominyddu ers tro gan gyflenwyr corfforaethol mawr.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans;

“Mae’n wych gweld llwyddiannau fel hyn o’n prosiectau a ariennir gan yr Economi Sylfaenol.  Bydd y Pecyn Cymorth newydd hwn yn adnodd amhrisiadwy i dyfwyr llysiau a ffrwythau, gan eu helpu i fynd i mewn i gadwyni cyflenwi’r sector cyhoeddus, a gwella hunangynhaliaeth a gwytnwch fel ein bod yn llai dibynnol ar fewnforion. Bydd hefyd yn ein helpu ar ein taith i sero net trwy greu cadwyni cyflenwi byrrach.

“Rwy’n canmol CYD Cymru am eu cydweithrediad a’u arloesedd ar y prosiect hwn.”

Dywedodd Dr Nicola Perkins, Pennaeth Rhaglenni CYD Cymru;

“Mae’n wych ein bod yn gallu cynnal y pecyn cymorth hwn a’r ystod o adnoddau i helpu tyfwyr ffrwythau a llysiau ar raddfa fach i lywio byd caffael. Rydym yn gwybod eu bod yn gwneud gwaith anhygoel, ac rydym eisiau eu gweld yn cael eu cefnogi drwy gael mwy o fwyd lleol i’n gofodau cyhoeddus.”

“Fe wnaethom weithio’n agos gyda phrosiect ‘Llysiau Cymru yn Ysgolion’ yn ystod y gwaith datblygu i sicrhau bod yr adnoddau hyn yn ystyrlon ac wedi’u profi. Rydym yn falch o fedru gwneud ein rhan i gefnogi’r garfan honno o dyfwyr i mewn i gadwyni cyflenwi newydd, ac yn gobeithio y gall llawer mwy o dyfwyr elwa’n y dyfodol ar ein hadnoddau.”

Cafodd y pecyn cymorth ei greu gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru drwy’r Economi Sylfaenol o dan y Gronfa Cefnogi Busnesau Lleol, ac fe’i cynhelir ar wefan CYD Cymru. Cyfrannodd SF&G eu harbenigedd at y gwaith cynllunio ac offer cydweithio, tra bu ROCBF yn cynhyrchu set gynhwysfawr o adnoddau i gefnogi tyfwyr i lywio tirwedd ariannol tyfu garddwrol ar raddfa fach. O ddeall opsiynau cyllido ac ymdrin â llif arian, i archwilio atebion creadigol ar gyfer y gweithlu a gwneud y mwyaf o werth cnydau, mae’r adnoddau hyn yn darparu cyngor ymarferol wedi’i deilwra i anghenion busnesau garddwriaethol bach yng Nghymru.

Crëwyd matrics cydymffurfiaeth hefyd fel rhan o’r prosiect, mewn partneriaeth â Lantra, sy’n rhedeg ‘Farming Connect’ (Garddwriaeth), i helpu tyfwyr i lywio’r gwahanol safonau garddwriaethol sydd eu hangen arnynt i fodloni safonau a deddfwriaeth diogelwch a hylendid bwyd.

Am ragor o wybodaeth, ewch i’r ddolen isod neu e-bostiwch info@dtawales.org.uk.