Ymgynghori

print

Mae CYD Cymru’n cefnogi ceisiadau a deiliaid grantiau ar Raglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol 2 (CAT2) y Loteri Fawr. CAT2 yw rhaglen flaenllaw Rhaglen y Loteri Fawr Cymru sy’n darparu ariannu cyfalaf a refeniw i gefnogi trosglwyddo asedau, megis tir ac adeiladau, o unigolion, sefydliadau sector cyhoeddus neu sector preifat i berchnogaeth gymunedol.

Mae’r Rhaglen CAT2 yn helpu i gryfhau cymunedau a’u gwneud yn fwy cynaliadwy drwy eu cynorthwyo i dderbyn a datblygu asedau megis tir neu adeiladau a drosglwyddwyd o unigolion, sefydliadau sector cyhoeddus neu sector preifat i sefydliadau mentrus sy’n cynnwys y gymuned y maent yn ei gwasanaethu yn weithredol er budd iddi. Mae DTA Cymru’n rhoi cymorth i helpu’r cymunedau hyn i ddatblygu eu modelau busnes a chymorth mentora i helpu i gyflenwi cynaliadwyedd. I dderbyn gwybodaeth bellach am ein gwaith ar raglen CAT2 cliciwch yma. 

BUSNESAU CYDWEITHREDOL

Mae CYD Cymru’n helpu busnesau cydweithredol ym mherchnogaeth y gymuned ar sail Darparwr Cymeradwy i The Hive. Mae The Hive yn rhaglen gymorth busnes gan Co-operatives UK a The Co-operative Bank, ar gyfer pobl sy’n dymuno dechrau neu dyfu busnesau cydweithredol neu fentrau cymunedol. Mae’n cynnig cymysgedd o adnoddau ar-lein, cyngor a hyfforddiant sy’n gallu eich helpu i adeiladu busnes cydweithredol gwell.

CARTREFI A ARWEINIR GAN Y GYMUNED

Arweiniodd CYD Cymru Ymweliad “Gwelwch i’ch Hun” yng Nghymru fel rhan o gyfres 18 mis o ymweliadau dysgu i brosiectau cartrefi a arweinir gan y gymuned o amgylch y wlad. Wedi’u harwain gan ein chwaer sefydliad Locality, a’i hariannu gan Building and Social Housing Foundation, erbyn hyn mae’r rhaglen hon wedi’i chwblhau. Gallwch wylio fideo o’r ymweliad â Chymru a gynhaliwyd ar 14eg Medi 2016 a gallwch ddarllen ein blog yma. 

Cefnogwyd Canolfan Gymunedol Hubberston a Hakin yn Sir Benfro, o dan gontract Building Communities Trust.

Mae CYD  Cymru’n cynnig ystod o wasanaethau ymgynghori ar adfywio a arweinir gan y gymuned, menter gymunedol a datblygu asedau a throsglwyddo asedau ar gyfer cymunedau, sefydliadau trydydd sector a chyrff cyhoeddus ar draws Cymru.

Gan ddefnyddio Cronfa CYD Cymru rydym yn dod ag ystod o ymarferwyr a chysylltiadau ynghyd o bob cwr o’r sector sydd â gwledd o brofiad ym maes adfywio sylfaenol a arweinir gan y gymuned, trosglwyddo asedau a datblygu, a menter gymunedol. Tynnir y cysylltiadau hyn o’n tîm o blith staff profiadol, ein Bwrdd, ein Haelodau Llawn a’n Haelodau Cysylltiol, ac o blith ymarferwyr mewn sefydliadau tebyg sy’n bartneriaid ac yn cefnogi ein gwaith.

I gael mynediad i’n gwasanaethau ymgynghori, anfonwch e-bost atom ni (info@dtawales.org.uk) eu ffoniwch 02920 190260 ynghylch eich ymholiad i dderbyn dyfynbris am ddim, heb unrhyw rwymedigaeth. Neu cliciwch yma i ddysgu mwy.

AR GYFER CYMUNEDAU:

Rydym yn darparu ystod o wasanaethau ymgynghori gan weithio gyda chi a gyda’ch Bwrdd a/neu eich tîm rheoli, i ddiwallu eich anghenion pwrpasol, i roi cymorth a chyngor ac i weithredu fel eich ffrind beirniadol. Mae ein cyngor a’n cymorth yn annibynnol, yn ddiduedd, yn adeiladol ac ar eich cyflymder chi. Ein nod yw cefnogi a grymuso eich sefydliad er mwyn i chi symud eich menter gymunedol, asedau ac adfywio i’r lefel nesaf.

AR GYFER CYRFF CYHOEDDUS

Rydym yn defnyddio ein record ym meysydd adfywio a arweinir gan y gymuned a menter gymunedol, datblygu asedau a throsglwyddo asedau yng Nghymru (ac ar draws y Deyrnas Unedig trwy ein partneriaid cymdeithas yr ymddiriedolaeth ddatblygu yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gan dynnu ar wybodaeth, sgiliau a phrofiad dros 800 o ymarferwyr) i roi mynediad i chi i adnoddau ystyriol ac uchel eu parch, pecynnau cymorth, gwybodaeth a chymorth a chefnogaeth i ddefnyddio’r rhain yn effeithiol.

Mae ein hystod o wasanaethau’n cynnwys:

  • Meincnodi eich sefydliad gan ddefnyddio Gwiriad Iechyd Addas i Bwrpas CYD
  • Cymorth i ymddiriedolaethau datblygu newydd a phresennol a sefydliadau angor a menter gymunedol eraill
  • Cymorth ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol a Datblygu Asedau a Pherchnogaeth Gymunedol 
  • Cymorth ar gyfer dysgu, gwybodaeth a sgiliau rhwng cymheiriaid ac i’w hwyluso
  • Cynnal astudiaethau dichonoldeb, cyfnewidiadau a setiau dysgu gweithredol
  • Cynllunio busnes
  • Adolygiadau a chyngor polisi
  • Ymchwilio a llunio astudiaethau achos
  • Hyfforddi a mentora
  • Ymgynghori ac ymgysylltu cymunedol
  • Cymorth i ystyried a chael mynediad i amryw ffurf o ariannu a chyllid buddsoddi (gan gynnwys grantiau, buddsoddiadau cymdeithasol/benthyciadau, materion cyfraniadau cymunedol, a chyllido torfol)
  • Cymorth parodrwydd am fuddsoddi a dadansoddi risg i ymgymryd â buddsoddiad cymdeithasol
  • Cyngor ar egwyddorion ac ymarferion datblygu cynaliadwy (a chymorth gan Adfywio Cymru ac Ynni Cymunedol Cymru)
  • Cyngor ac ymgyrchoedd polisi
  • Cymorth ar faterion technegol penodol (e.e. cyfreithiol, cynllunio, dylunio, ayyb)
  • Diogelu prisoedd ynni gwell, trwy ein consortia o aelodau a hyrwyddo technoleg effeithlonrwydd ynni ac arbedion trwy Grŵp Gweithredu Ynni CYD Cymru 

Rydym yn darparu’r gwasanaethau a restrir uchod, mewn ystod o feysydd, gan gynnwys:

  • Datblygu ac adfywio cymunedol
  • Menter gymunedol a chymdeithasol – dechrau a datblygu
  • Trosglwyddo asedau cymunedol a datblygu a pherchnogaeth asedau cymunedol
  • Hyfforddiant a hwyluso
  • Offerynnau ansawdd ac effeithiau
  • Rhwydweithiau dysgu ar gyfer ymgynghorwyr a throsglwyddo gwybodaeth a sgiliau rhwng cymheiriaid  
  • Llais a dylanwad
  • Datblygu cynaliadwy, newid hinsawdd ac ynni adnewyddadwy (trwy ein rhaglenni a’n partneriaid – Adfywio Cymru, Ynni Cymunedol Cymru, a Grŵp Gweithredu Ynni CYD Cymru

I gael mynediad i’n gwasanaethau ymgynghori, anfonwch e-bost atom ni neu ffoniwch 02920 190260 ynghylch eich ymholiad i dderbyn dyfynbris am ddim, heb unrhyw rwymedigaeth.