Mae Adfywio Cymru’n recriwtio

dyddiad 05.07.2018

 

Mae Adfywio Cymru’n recriwtio ar gyfer dwy swydd newydd i gyflenwi cam newydd y rhaglen arloesol a llwyddiannus hon i ysgogi gweithredu cymunedol ar newid yn yr hinsawdd: Cydlynydd Gweithrediadau a Chyflenwi (0.4-0.8 CALl) Swyddog Cyfathrebu (0.6-1.0 CALl)

Ynghyd â Chyfarwyddwr y Rhaglen, sy’n swydd lawn amser, bydd y ddwy swydd hon yn rhan o’r tîm craidd sy’n cefnogi Adfywio Cymru yn DTA Cymru. Mae Adfywio’n cefnogi gweithgareddau ledled Cymru, ac yn gweithredu drwy nifer o bartneriaethau sy’n fuddiol i’r naill ochr a’r llall gydag ysgogwyr newid sydd wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau. Mae’n waith amrywiol a heriol, ac mae i’r ddwy swydd gryn dipyn o gyfrifoldeb am lwyddiant y rhaglen. O’r herwydd, rydym yn chwilio am unigolion eithriadol sydd â diddordeb angerddol mewn grymuso cymunedau i weithredu’n gadarnhaol ar newid yn yr hinsawdd ac sydd â’r profiad, y craffter a’r synnwyr cyffredin i gyflawni pethau mewn modd effeithlon, dibynadwy ac effeithiol.

  • Cyflog o tua £25k am swydd lawn amser, pro-rata am swydd ran amser, yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.
  • Rhywfaint o hyblygrwydd o ran rhannu oriau ar draws y ddwy swydd.
  • Lleoliad: Caerdydd ac o bell yng Nghymru.

I gael gwybod mwy am Adfywio Cymru ewch i: www.renewwales.org.uk

I gael gwybod mwy am DTA Cymru ewch i: www.dtawales.org.uk

I gael sgwrs anffurfiol am y swyddi cysylltwch â Chyfarwyddwr y Rhaglen, Kate Hamilton katehamilton@renewwales.org.uk neu 07947 154550

I wneud cais am un o’r swyddi hyn bydd angen i chi lenwi ffurflen gais DTA Cymru yma, a’i chyflwyno i info@dtawales.org.uk erbyn 9am ddydd Llun 30 Gorffennaf 2018.

print