Busnes Cymdeithasol Cymru

print

Ariennir Busnes Cymdeithasol Cymru gan Lywodraeth Cymru. Fe’i cyflwynir gan gonsortiwm o ddarparwyr sy’n cynnwys Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru, Cwmpas, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, UnLtd a CGGC. Mae’n rhan o wasanaeth Busnes Cymru.

Gan gefnogi busnesau cymdeithasol newydd a sy’n tyfu, ein rôl allweddol yw datblygu gwasanaeth mentora cymheiriaid cynyddol hyderus a chymwys i fentrau cymdeithasol yng Nghymru.

Ewch i’r safle wê swyddogol: Busnes Cymdeithasol Cymru (gov.wales)

Am fusensau cymdeithasol:

Mae busnesau cymdeithasol yn rhan bwysig a dynamig o economi cymru. Maent yn darparu swyddi da, yn nes at gartref, lle y mae ar gymunedau eu hangen. Mae busnesau cymdeithasol yn gweithredu mewn modd ymarferol i fynd i’r afael â materion lleol, a hynny trwy fasnachu ac yna ailfuddsoddi’r incwm y maent yn ei ennill yn y pethau sy’n bwysig iddynt.

Cysylltwch a ni ar info@dtawales.org.uk i ddarganfod mwy am sut gall Busnes Cymdeithasol Cymru eich helpu.