Menter Gymunedol

print

Rhan o’n cenhadaeth yw annog ymddiriedolaethau datblygu a sefydliadau cymunedol eraill i feithrin mentrau cymunedol ar gyfer cynaliadwyedd hir dymor. Rydym yn rhan o nifer o fentrau i hyrwyddo a chefnogi gweithgarwch menter gymunedol.

Mae menter gymunedol yn fusnes sydd ag amcanion cymdeithasol yn hytrach nag amcanion ariannol. Caiff unrhyw warged y mae menter gymunedol yn ei gynhyrchu ei ail-fuddsoddi yn y busnes neu yn y gymuned at y diben hwnnw, yn hytrach na chael ei yrru gan yr angen i gynyddu’r elw i’r eithaf ar gyfer cyfranddalwyr a pherchnogion.

I ni, mae menter gymunedol yn golygu:

  • Sefydliadau a arweinir gan y gymuned – cymuned o ran lleoliad ac o ran diddordeb
  • Ethos hunangymorth – tra ein bod yn cyflawni llawer drwy weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, busnesau ayyb, rydym yn anelu at osgoi dibynadwyedd
  • Y cymunedau eu hunain yw’r asiantwyr gorau ar gyfer eu hadfywio
  • Nid yw dulliau dyngarol a lles ar eu pen eu hunain yn ddigonol – mae angen mentergarwch ar gyfer newid cynaledig
  • Masnachu at ddiben cymdeithasol – lle caiff gwarged ei ailfuddsoddi mewn datblygu menter pellach er budd y gymuned
  • Gall asedau ym mherchnogaeth y gymuned (adeiladau, tir ac asedau eraill) adeiladu capasiti busnes a chyflawni nodau’r gymuned

 

Mae mentrau cymunedol yn gweithredu mewn ystod eang o sectorau ar draws y Deyrnas Unedig. Maent yn ffurfio rhan o’r sector menter gymdeithasol cyfan yng Nghymru. Ymhlith yr enghreifftiau o fentrau cymunedol adnabyddus yng Nghymru ceir rhai o’n Haelodau, megis Galeri Caernarfon yng Ngogledd-orllewin Cymru, Vision 21 yng Nghaerdydd, a PLANED yng Ngorllewin Cymru. Yn fras, mae menter gymunedol yn golygu creu cyfoeth mewn cymunedau, a’i gadw yno.

Er mwyn cefnogi twf mentrau cymunedol yng Nghymru, nod CYD Cymru yw datblygu gwasanaeth mentora cymheiriaid cynyddol hyderus a chymwys i fentrau cymdeithasol yng Nghymru trwy Busnes Cymdeithasol Cymru.