Y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol

print

Oes adeilad neu dir o werth i’ch cymuned mewn perygl o gael ei gau neu ei golli?

Mae perchnogaeth gymunedol yn rhoi rheolaeth i bobl leol dros yr adeiladau a’r gofodau sydd o bwys iddynt a bod y mannau hyn yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd sy’n bodloni blaenoriaethau ac anghenion y gymuned leol.

Mae CYD Cymru yn un o 10 sefydliad cymorth cymunedol blaenllaw sy’n cyfuno ein gwybodaeth a’n sgiliau i helpu darpar ymgeiswyr i ddatblygu eu cynigion prosiect a gwneud cais i’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Rhyngom rydym yn cwmpasu’r DU gyfan; cynnig sylfaen wybodaeth ddofn a phrofiad o weithio gyda sefydliadau i ddatblygu ystod o asedau cymunedol.

Mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol (COF) £150 miliwn ar gyfer cymunedau ledled y DU i’w helpu i gymryd perchnogaeth ar asedau sydd mewn perygl o gael eu cau. Bydd yn para tan fis Mawrth 2025.

Darllennwch yma am y sefydliadau a grwpiau sydd wedi bod yn llwyddiannus drwy’r Gronfa yn barod!

Ar gyfer pwy mae’r cyllid?

Gallwch wneud cais os ydych yn fudiad gwirfoddol a chymunedol corfforedig neu’n gyngor plwyf (neu gyngor cyfatebol). Gall hyn gynnwys sefydliadau corfforedig elusennol, Cwmnïau Cydweithredol gan gynnwys Cymdeithasau Budd Cymunedol; CBC neu gwmnïau dielw cyfyngedig trwy warant.

Beth ydy ased gymunedol?

Gall ased gymunedol fod yn unrhyw adeiladau neu dir a ddefnyddir ar gyfer lles neu ddiddordeb cymdeithasol y gymuned leol, gan gynnwys mannau gwyrdd, llyfrgelloedd, mannau diwylliannol, cyfleusterau hamdden, canolfannau cymunedol, tafarndai a mwy. Mae’n rhaid i’r ased fod mewn perygl o gau, gael ei werthu neu diofalwch heb gyfranogiad y gymuned, a pharhau i fod o fudd cymunedol yn y dyfodol.

Am y cyllid:

Gallwch wneud cais am hyd at £250,000 i brynu neu brydlesu ased a thalu am gostau adnewyddu. Mewn achosion eithriadol, mae hyd at £1m ar gael gan y GPG ar gyfer pob math o ased lle mae’r ased mewn perygl o gael ei golli. Mae’n rhaid i chi gyfrannu 20% o gyllid ‘cyfatebol’ tuag at gyfanswm y cyfalaf sydd ei angen – gall ffynonellau gynnwys grantiau, benthyciadau a ffynonellau sydd ddim yn arian parod.

Mae’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn cael ei gynnig gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a’i darparu gan 10 sefydliad yn y DU, a arweinir yng Nghymru gan CYD Cymru. 

Cysylltwch ac arfonhughes@dtawales.org.uk i ddargonfod mwy – bydd Arfon yn rhedeg gweminar wybodaeth am ddim ar y 14eg o Fedi 2023, 1-3pm, am Sut i Wneud Cais Cryf ac i ateb eich cwestiynau – bydd manylion i gofrestru ar y safle wê MyCommunity yn fuan. Cynhaliodd CYD Cymru hefyd weminar am gyd-destun Cymru ar yr 22ain o Fai – gallwch wylio’r recordiad yma (yn Saesneg).

 

 

Rydym yn helpu pobl leol i gael rheolaeth dros yr adeiladau a’r gofodau sydd o bwys iddynt fel y gellir defnyddio’r gofodau mewn ffyrdd sy’n bodloni blaenoriaethau ac anghenion y gymuned leol. Rhaid i bob ymholiad swyddogol fynd drwy https://mycommunity.org.uk/beth-ywr-gronfa-perchnogaeth-gymunedol