Sut mae Egin yn gweithio?
Rydym yn gweithio gyda 9 Hwylusydd dros Gymru a fydd yn cysylltu ac yn siarad â grwpiau cymunedol, yn enwedig y rhai sydd ddim wedi cymryd unrhyw gamau yn erbyn newid hinsawdd eto, ond a allai gael eu heffeithio fwyaf ganddo.
Yr Hwylusydd fydd eich pwynt cyswllt cyntaf – dod â’r grŵp ynghyd, gwrando ar yr hyn y mae pawb ei eisiau a’i angen, a’u helpu i benderfynu a yw ymuno â rhaglen Egin yn syniad da iddynt.
Os ydych yn ymuno â’r rhaglen, byddwch yn rhan o Gymuned Ar-lein Egin. Yma, gallwch gadw mewn cysylltiad â’ch grŵp, gweithio gyda’ch gilydd ar eich Cynllun Gweithredu, cynllunio digwyddiadau, a gweld beth mae grwpiau cymunedol eraill yn ei wneud. Gallwch hefyd gysylltu â nhw, rhannu syniadau, a dysgu oddi wrth eich gilydd.
Mae hyn i gyd am ddim oherwydd bod y rhaglen yn cael ei hariannu gan y Cynllun Asedau Segur a’i gweinyddu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (TNLCF).
Bydd yr hwyluswyr yn eich helpu i ddod o hyd i Fentoriaid Cymheiriaid gyda’r wybodaeth a’r profiad cywir i helpu i’ch arwain a’ch cefnogi i gymryd y camau cyntaf yn eich Cynlluniau Gweithredu. Gall cefnogaeth Mentor Cymheiriaid bara rhwng 1-3 diwrnod ond gall gael ei wasgaru dros fisoedd lawer yn ôl yr angen.
Mae Mentoriaid Cymheiriaid yn aelodau o’r gymuned sydd â phrofiad a gafwyd o brosiectau eraill, sy’n barod i rannu eu profiad a’u sgiliau i’ch cefnogi i wneud y newidiadau rydych am eu gweld.
Mae’n bosibl y bydd grwpiau sy’n cymryd rhan yn Egin yn gallu gwneud cais am grant o hyd at £15k o raglen Camau Cynaliadwy Cymru – Grantiau Egin trwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol tuag at gostau eu prosiect. Gall Mentoriaid Cymheiriaid eich helpu i weld os ydych yn gymwys am yr help yma.