Rhaglenni blaenorol (archif)
Some of the programmes that we have been proud to run at DTA Wales include:
Atebion Mentrus: Helpu sefydliadau cymunedol i sefydlu a rhedeg mentrau cymunedol
Adfywio Cymru: Rhwng 2012-2022, helpodd Adfywio Cymru gannoedd o grwpiau cynumedol i daclo newid hinsawdd a byw’n fwy cynaliadwy
Cymunedau yn Creu Cartrefi: Helpu i gefnogi grwpiau newydd ac embryonig sy’n archwilio gwahanol fathau o dai a arweinir gan y gymuned
Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol 2 (CAT2). CAT2 oedd rhaglen flaenllaw Loteri Fawr Cymru oedd yn darparu cyllid cyfalaf a refeniw i gefnogi trosglwyddo asedau, megis tir ac adeiladau, o unigolion, sefydliadau sector cyhoeddus neu breifat i berchnogaeth gymunedol. Mae DTA Cymru wedi cefnogi ymgeiswyr a deiliaid grantiau ar Raglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol 2 (CAT2) y Loteri Fawr.
Tai a Arweinir gan y Gymuned: Arweiniodd DTA Cymru Ymweliad “Gweld Eich Hun” Cymru fel rhan o gyfres 18 mis o ymweliadau dysgu â phrosiectau tai a arweinir gan y gymuned ledled y wlad. Wedi’i harwain gan ein chwaer sefydliad Locality, a’i hariannu gan y Sefydliad Adeiladu a Thai Cymdeithasol, mae’r rhaglen hon bellach wedi’i chwblhau.