Mae rownd 3 o’r Prospectws i’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol wedi ei gyhoeddi

dyddiad 15.05.2023

Mae’r prosbectws rownd 3 newydd ar gyfer Cronfa Perchnogaeth Gymunedol Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yma.  

Mae’r gronfa £150 miliwn yn bodoli i helpu cymunedau lleol ledled y DU i reoli asedau, amwynderau neu gyfleusterau sydd mewn perygl o gau – o barciau i dafarndai, o lidos i lyfrgelloedd. 

Gall grwpiau wneud cais am hyd at £250k drwy’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol i brynu neu brydlesu ased lleol neu helpu i dalu am waith adnewyddu (hyd at £1m mewn achosion eithriadol). Rhaid i’r holl gyllid sy’n cael ei ddarparu drwy’r Gronfa gael ei ategu gan 20% neu fwy o arian cyfatebol o ffynonellau eraill. Mae hwn yn newid mawr o’r 50% o arian cyfatebol oedd angen ei godi yn gynharach.

Pan fyddwn yn sôn am ased neu ofod cymunedol, rydym yn golygu adeiladau neu dir a ddefnyddir ar gyfer lles neu ddiddordeb cymdeithasol y gymuned leol. Mae’r rhain yn cynnwys mannau gwyrdd, llyfrgelloedd, mannau diwylliannol, cyfleusterau hamdden, canolfannau cymunedol, tafarndai a mwy.

Mae perchnogaeth gymunedol yn rhoi rheolaeth i bobl leol dros yr adeiladau a’r gofodau sydd o bwys iddynt a bod y mannau hyn yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd sy’n bodloni blaenoriaethau ac anghenion y gymuned leol.

Rydyn ni’n cydweithio gyda 9 sefydliad cymorth cymunedol arall fel darparwyr swyddogol rhaglen gymorth y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.  

Gallwch ddarganfod a yw’r gronfa’n addas i’ch sefydliad a chael help i ddeall cymhwystra a sut i ysgrifennu cais cryf ar gyfer y gronfa drwy ymweld â thudalen rhaglen gymorth y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. 

Linciau:

print