Mae ein rhaglen newydd, Egin, wedi’i lansio!

dyddiad 07.02.2023

Rydym yn hapus i gyhoeddi bod rhaglen newydd DTA Cymru, Egin, wedi’i lansio heddiw.

Mae Egin yn bwriadu datgloi pŵer cyfunol cymunedau yng Nghymru i daclo newid hinsawdd a dod yn fwy cynaliadwy, yn enwedig y rhai sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan newid hinsawdd.

Mae’r gair “Egin” yn gysylltedig â bywyd newydd – a’r nod yw helpu syniadau newydd i “egino” a gwreiddio, gan gefnogi cymunedau i ddod at ei gilydd a siarad am y newidiadau y maent eisiau eu gweld.

Prif ffocws Egin ydy gweithio gyda grwpiau sydd yn llai tebygol o deimlo’n rhan o sgyrsiau am yr hinsawdd a chynaliadwyedd, ond sydd yn debygol o gael eu heffeithio fwyaf.

Y tîm Egin a’r Hwyluswyr

 

Bydd grwpiau sy’n ymuno â’r rhaglen yn gallu cael hyd at 3 diwrnod o Fentora Cymheiriaid, gan ddewis o gronfa o fentoriaid profiadol ledled Cymru sydd â sgiliau ac arbenigedd mewn pynciau fel: sefydlu gerddi cymunedol, ynni adnewyddadwy, adeiladau cymunedol a thrafnidiaeth gyhoeddus. Byddant hefyd yn cael mynediad i gymuned ar-lein newydd lle gallant rannu syniadau, trafod materion a cysylltu â grwpiau eraill.

Gall grwpiau sy’n cael eu mentora drwy Egin ddatblygu syniadau ar gyfer eu hardal leol a gallant wneud cais am grantiau o hyd at £15,000 gan grant Camau Cynaliadwy Cymru – Egin sy’n cael eu hariannu gan y Cynllun Cyfrifon Segur a’i weinyddu drwy Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Mae DTA Cymru yn partneru gyda EYST (Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru), Asiantaeth Ynni Severn Wye a Rhwydwaith Cydgynhyrchu Cymru i ddarparu’r rhaglen, a fydd yn rhedeg tan 2029.

Ariannu:Sefydlwyd Egin gan ddefnyddio grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol gan ddefnyddio arian o’r cynllun Cyfrifon Cwsg (arian a adawyd heb ei gyffwrdd mewn banciau a chymdeithasau adeiladu am fwy na 15 mlynedd sydd wedyn yn cael ei ailddosbarthu i achosion da).

Darganfyddwch fwy / dilynwch ein sianeli cyfryngau cymdeithasol:

Safle we:       www.egin.org.uk

Facebook:    www.facebook.com/egincymru

Twitter:          www.twitter.com/egincymru

Instagram:    www.instagram.com/egin_cymru

LinkedIn:      www.linkedin.com/company/egin

 

 

print