Grantiau costau byw o £10,000 o gael i aelodau DTA Cymru
Gall aelodau o DTA Cymru, yn ogystal ag aelodau o Locality, DTA Gogledd Iwerddon neu DTA Scotland, wneud cais am grant o £10,000 i helpu gyda chostau byw.
Mae Locality yn bartner ar gyfer apêl elusen flynyddol Guardian and Observer 2022. Mae llawer o sefydliadau cymunedol yn ymdrechu’n galed i gefnogi eu cymunedau drwy’r argyfwng costau byw, tra hefyd yn wynebu cynnydd mewn costau eu hunain. Bydd rhoddion caredig darllenwyr y Guardian a’r Observer yn helpu sefydliadau cymunedol i barhau i ddarparu’r cymorth y mae gwir ei angen ar gymunedau.
Gall sefydliadau sy’n aelodau o DTA Cymru wneud cais. Bydd angen i chi hefyd:
- gael trosiant o dan £500k y flwyddyn,
- gyflogi staff,
- ddarparu gwasanaethau i gefnogi pobl sydd wedi eu heffeithio gan gostau cynyddol dros y flwyddyn ddiwethaf
naill ai:- bod yn gweithio mewn ardal yn y ddwy ddegradd Mynegai Amddifadedd Lluosog isaf, NEU
- bod yn cefnogi cymunedau â lleiafrifoedd hiliol.
Gallwch wneud cais i dalu costau rhedeg, gweithgareddau presennol, neu brosiectau newydd, cyn belled â bod y gwaith yn helpu pobl sy’n cael trafferth gyda chostau cynyddol.
Darganfyddwch fwy a gwnewch gais yma: https://locality.org.uk/projects/cost-of-living-grants