Mae DTA Cymru yn chwilio am Fentoriaid Cymheiriaid i ymuno â’n rhaglenni presennol ac i ddod

dyddiad 06.03.2023

Oes gennych chi brofiad Menter Gymdeithasol y gallech chi ei rannu â mentrau a grwpiau newydd eraill ledled Cymru?

Mae Mentoriaid Cymheiriaid wrth galon yr hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu (DTA) Cymru. Mae ein mentoriaid cymheiriaid yn cefnogi, grymuso a datblygu gallu grwpiau cymunedol i gyrraedd eu nodau.

Rydym am greu cronfa fentoriaid i gefnogi ystod o brosiectau, ac i adlewyrchu’n well anghenion ein rhaglenni presennol o ran y sgiliau, y sectorau, y lleoliadau daearyddol a’r profiad o weithio gyda grwpiau amrywiol yr ydym fwyfwy yn cael ein gofyn i gefnogi. Rydym yn chwilio am fentoriaid newydd sydd â phrofiad (mewn lleoliad menter gymunedol neu gymdeithasol) o;

Sgiliau – gallwch gefnogi grwpiau gydag unrhyw un o’r canlynol:

  • Codi arian – ceisiadau a strategaeth
  • Cynhyrchu incwm a strategaeth ariannol
  • Datblygu a chynllunio busnes
  • Trosglwyddo Asedau Cymunedol
  • Adnoddau Dynol (HR)
  • B2B Parodrwydd caffael

Sectorau – mae gennych wybodaeth am unrhyw un o’r sectorau hyn y gallai grwpiau fod yn gweithio ynddynt:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Gwasanaethau Tyfu a Bwyd
  • Gwasanaethau manwerthu, Chwaraeon a Thwristiaeth
  • Rheoli Asedau Cymunedol / Eiddo
  • Addysg a Hyfforddiant
  • Newid Hinsawdd a Chynaliadwyedd

Amrywiaeth – mae gennych brofiad personol neu broffesiynol o weithio gydag unigolion sy’n nodi unrhyw un o’r canlynol:

  • LGBTQIA+
  • Neuroamrywiaeth
  • Cymunedau lleiafrif ethnig
  • Anableddau (o bob math)
  • Pobl gydag anfanteision
  • Pobl Ifanc
  • Iaith Gymraeg

 

Mae mentoriaid cymheiriaid yn cael eu talu am y gwaith mae nhw’n ei wneud. Gallent gael eu cynnal naill ai gan sefydliad trydydd sector neu drwy gontract uniongyrchol gan DTA Cymru. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd Mentor Cymheiriaid penodol yn derbyn unrhyw aseiniadau i gefnogi grŵp. Mae’r holl raglenni a gefnogir gan fentora yn cael eu harwain gan alw ac yn ymateb i geisiadau sy’n dod i’r amlwg.

Tâl:

£300 y dydd (7 awr)
£250 i Egin (os nad ydych yn cael eich gynnal gan sefydliad) 

Os ydym yn barnu bod eich sgiliau yn addas ar gyfer rhaglen newydd Busnes Cymdeithasol Cymru sy’n dechrau ar Ebrill 23 (a gyflwynir mewn partneriaeth â Chwmpas ac a ariennir gan Lywodraeth Cymru), naill ai fel mentor newydd neu fentor profiadol, byddan yn gofyn i chi fynychu cwrs sefydlu am 1.5 awr (mi gewch eich talu am hyn). Sesiwn i gael trosolwg o’r rhaglen a rhoi hwb i’ch sgiliau bydd hyn, ar ddydd Iau 30 Mawrth rhwng 09:30 ac 11am ar gyfer mentoriaid newydd, ac o 12 tan 13:30 ar gyfer mentoriaid DTA presennol.

Os ydych yn teimlo yr hoffech wneud cais i ymuno â’n cronfa o Fentoriaid Cymheiriaid, cysylltwch â ni ar info@dtawales.org.uk  gyda rhywfaint o wybodaeth amdanoch chi’ch hun fel y gallwn drefnu sgwrs fer ac anfon ffurflen gais.

print