Mae Grŵp Rhanddeiliaid Menter Gymdeithasol Cymru yn chwilio am Gadeirydd annibynnol newydd
Mae Grŵp Rhanddeiliaid Menter Gymdeithasol Cymru yn chwilio am Gadeirydd annibynnol newydd – dyddiad cau Mai 24
Mae DTA Cymru yn un o sefydliadau aelod y Grŵp Rhanddeiliaid Menter Gymdeithasol Cymru, ochr yn ochr â Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, Cwmpas, UnLtd a CGGC. Rydym yn gweithio gyda’n gilydd i gyflawni ein hadroddiad Trawsnewid Cymru drwy Fenter Gymdeithasol, gweledigaeth a chynllun gweithredu a gyd-gynhyrchwyd i wneud menter gymdeithasol y fodel busnes o ddewis yng Nghymru.
Mae Grŵp Rhanddeiliaid Menter Gymdeithasol Cymru yn credu bod yn rhaid i fentrau cymdeithasol chwarae rhan allweddol wrth adeiladu economi decach, mwy cynhwysol a chynaliadwy. Rydym yn chwilio am Gadeirydd i’n helpu i arwain a chefnogi ein gwaith i gyflawni ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer y sector.
Rydym yn chwilio am unigolyn annibynnol, profiadol a gwybodus i ddwyn y grŵp i gyfrif a helpu i arwain ein gwaith i gyflawni’r canlyniadau a nodir yn y weledigaeth a’r cynllun gweithredu. Bydd y person hwn yn goruchwylio datblygiad a chyflwyniad llwyddiannus y cynllun gwaith, yn hwyluso penderfyniadau a llywodraethu cadarn, ac yn hyrwyddo perthnasoedd effeithiol gyda’r sector ehangach.
Mae cyllideb o £250 y diwrnod ar gael i dalu costau a disgwylir ymrwymiad amser o un diwrnod y mis. Cliciwch ar y linciau isod i ddarganfod mwy am y SESG ac i weld y disgrifiad swydd. Os hoffech drafod y rôl, cysylltwch ag adam@dtawales.org.uk neu dan.roberts@cwmpas.coop.
I wneud cais, anfonwch eich CV a llythyr eglurhaol yn amlinellu eich addasrwydd ar gyfer y rôl at nicola.leybourne@cwmpas.coop. Y dyddiad cau yw Mai 24ain. Edrychwn ymlaen at glywed oddi wrthych.
Lawrlwythwch y disgrifiad swydd
Trawsnewid Cymru drwy Fenter Cymdeithasol – darllennwch yr adroddiad