Ein gwaith
Er bod Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu (CYD) Cymru yn fudiad o aelodau, nid i’n Haelodau yn unig yr ydym yn darparu gwasanaethau. Mae gennym hefyd ystod o raglenni a gwasanaethau sy’n rhoi budd i’r trydydd sector ehangach yng Nghymru.
Mae ein holl waith wedi’i strwythuro o gwmpas 3 maes craidd sy’n gysylltiedig â’n cenhadaeth a’n gwerthoedd:
Mentrau cymunedol – rydym yn annog datblygu ymddiriedolaethau a mudiadau cymunedol eraill i feithrin mentrau cymunedol ar gyfer cynaliadwyedd tymor hir.
Perchnogaeth gymunedol ar asedau – rydym yn cefnogi cymunedau sy’n ystyried cymryd rheolaeth ar dir ac adeiladau ar draws Cymru, neu helpu i ddatblygu rhai sydd eisoes ym mherchnogaeth y gymuned.
Cymunedau’n cefnogi cymunedau – rydym yn defnyddio dull cefnogaeth gan gymheiriaid lle bynnag y bo’n bosibl er mwyn cyflawni adfywio cymunedol mewn cymunedau ledled Cymru.
Wrth galon gwaith CYD Cymru mae Mentora Cymheiriaid: mae gennym rwydwaith cryf o Fentoriaid Cymheiriaid ledled Cymru gydag amrywiaeth o sgiliau a phrofiad. Darllenwch am beth yw Mentora Cyfoedion a’i fanteision yma.
Gallwch ddarganfod mwy am y rhaglenni a’r gwasanaethau penodol rydym yn eu darparu o’r dolenni ar yr adran hon o’r wefan. Cliciwch yma i weld rhai o’n rhaglenni blaenorol.
Mae ein Rhaglenni presennol yn cynnwys:
Egin: Helpu cymunedau daclo newid hinsawdd a byw’n fwy cynaliadwy drwy gymorth Mentora Cymheiriaid. Rydym wedi creu Y Cymuned Ar-lein Egin, cymuned o ymarfer a gofod ar-lein i unigolion a sefydliadau yng Nghymru sy’n gweithio ar fentrau hinsawdd gymunedol neu sydd eisiau dysgu mwy.
Cronfa Perchnogaeth Gymunedol: Cefnogi cymunedau i brynu asedau sy’n eiddo i’r gymuned sydd mewn perygl o gau, gyda i fyny at £250,000 ar gael i achub asedau.
Busnes Cymdeithasol Cymru: Cefnogi busnesau cymdeithasol newydd a thyfu. Mae CYD Cymru yn aelod llawn o’r consortiwm ochr yn ochr â Cwmpas, UnLtd a Social Firms Wales.
Mae ein gwasanaethau eraill yn cynnwys:
Grŵp Gweithredu Ynni – cynllun swmpbrynu i leihau costau ynni i gymunedau
Gwasanaethau Ymgynghori – mae hyn yn cynnwys contractau tymor byr yn ogystal â chontractau cymorth hirdymor
Gwaith polisi – Credwn fod sefydliadau cymunedol lleol yn darparu atebion i lawer o’r heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cymhleth sy’n wynebu ein cymunedau. Rydym yn bwydo eu profiadau i newid polisi a chreu amgylchedd mwy galluogol yng Nghymru ar gyfer menter gymunedol a pherchnogaeth asedau.
Gallwch ganfod mwy am y rhaglenni a’r gwasanaethau penodol a ddarparwn drwy ddefnyddio’r dolenni ar y rhan hon o’r wefan.
Mae ein Rhaglenni cyfredol yn cynnwys:
Y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol: Cefnogi cymunedau i brynu asedau sy’n eiddo i’r gymuned sydd mewn perygl o gau
Egin: Helpu cymunedau i daclo newid hinsawdd a byw’n fwy cynaliadwy
Busnes Cymdeithasol Cymru: Cefnogi busnesau cymdeithasol newydd a thyfu. Mae DTA Cymru yn aelod llawn o’r consortiwm ochr yn ochr â Cwmpas, UnLtd a Social Firms Wales.
Mae ein gwasanaethau eraill yn cynnwys:
Grŵp Gweithredu Ynni – cynllun prynu mewn swmp er mwyn lleihau costau ynni ar gyfer cymunedau
Gwasanaethau Ymgynghori – mae hyn yn cynnwys contractau tymor byr yn ogystal â chontractau cefnogi hirdymor gan gynnwys yr un a ddarparwn ar hyn o bryd i Loteri Fawr Cymru ar y Rhaglen Trosglwyddo Asedau Cymunedol 2
Gwaith polisi – Rydym o’r farn bod y mudiadau cymunedol lleol yn darparu atebion i lawer o’r heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cymhleth sy’n wynebu ein cymunedau. Rydym yn bwydo i mewn i’w profiadau i newid polisïau a chreu amgylchedd mwy galluogol yng Nghymru ar gyfer mentrau cymunedol a pherchnogaeth asedau.