Adroddiad newydd gan BCT yn dangos cysylltiad canlyniadau positif gyda asedau cymunedol

dyddiad 01.11.2023

Mae adroddiad newydd BCT/YAC “Cymunedau Cydnerth: wynebu’r her o fod ar yr ymylon” yn canfod cysylltiadau cryf rhwng asedau cymunedol ac ystod o ganlyniadau positif.

Creuwyd dau indecs newydd: Indecs Asedau Cymunedol Cymru, sy’n ystyried asedau dinesig (llyfrgelloedd, parciau cyhoeddus, neuaddau pentref ac ati), cysylltioldeb (mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus, cysylltedd digidol, gwasanaethau iechyd ac ati) a pha mor weithgar ac ymgysylltiol yw’r gymuned, ac Indecs Cydnerthedd Cymunedol Cymru, sy’n uno’r indecs asedau â Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru.

Maent yn diffinio cymunedau cydnerth fel “cymunedau sy’n meddu ar, neu sydd â mynediad at, ystod o asedau diriaethol ac anniriaethol sy’n cael eu defnyddio gan bobl yn y gymuned i wella llesiant unigol a chymunedol. Gall pobl gyrchu’r asedau hyn i sicrhau cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau cymdeithasol a hamdden, yn ogystal â darparu cymorth hanfodol mewn andwyol– boed yn sydyn ac yn annisgwyl neu’n hirdymor ac yn gronig eu natur.”

Nododd yr ymchwil Ardaloedd Llai Cydnerth fel y 25% o leoedd â’r seilwaith cymunedol isaf – canfuwyd bod gan bobl yn yr ardaloedd hyn lefelau uwch o ddiweithdra a llai o gyfleoedd gwaith lleol, disgwyliad oes is a mwy o salwch cyfyngus hirdymor nag ar draws Cymru ar y cyfan. Roedd trigolion yr ardaloedd yma hefyd yn llai tebygol o gael cymwysterau lefel gradd, ac er gwaethaf cysylltedd gwael, yn llai tebygol o fod yn berchen ar gar na’r cyfartaledd ar draws Gymru. O gymharu ag Ardaloedd Difreintiedig Eraill, mae’r Ardaloedd Llai Cydnerth hyn hefyd yn derbyn llai o arian gan elusennau a sefydliadau trydydd sector.

“Mae ein hymchwil yn dangos bod cymunedau â llai o fannau cyfarfod, sy’n llai weithgar ac ymgysylltiol ac sydd â chysylltedd gwael â’r economi ehangach, yn profi canlyniadau cymdeithasol ac economaidd sy’n sylweddol wahanol o’u cymharu â chymunedau sydd â mwy o’r asedau hyn.”

Peth diddorol arall i’w nodi yw lleoliad yr Ardaloedd Llai Cydnerth hyn:

“Yn drawiadol, mae llawer o’r cymunedau LRA sy’n profi heriau seilwaith ac amddifadedd i’w cael ar gyrion canolfannau trefol mawr, ar stadau tai a godwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd ac mewn hen gymunedau glofaol. Mae’r data’n awgrymu bod y rhan fwyaf o ardaloedd gwledig, ar y cyfan, wedi gallu cadw eu hasedau dinesig, er nad ydynt ar y cyfan yn cael eu disgrifio fel bod yn gyfoethog a’u bod yn aml yn profi cysylltedd gwael iawn.”

Darllenwch yr adroddiad llawn yma: https://www.bct.wales/wcai

print