Mae CYD Cymru yn cyflogi: Swyddog Cyfathrebu a Swyddog Caffael a Gwerth Cymdeithasol

dyddiad 26.01.2024
Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn cyflogi pedair swydd newydd o fewn CYD Cymru:

 

Swyddog Cyfathrebu (£28,000 FTE, 0.6 / 3 diwrnod yr wythnos)

Swyddog Caffael a Gwerth Cymdeithasol (£28,000 FTE, 0.6 / 3 diwrnod yr wythnos)

Mae Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru (CYD Cymru) yn sefydliad aelodaeth annibynnol sy’n seiliedig ar ymarferwyr sy’n hyrwyddo gwaith mentrau cymunedol yng Nghymru, ac yn eu cefnogi. Mae ein haelodau i gyd yn sefydliadau dielw annibynnol sy’n gwasanaethu eu cymunedau trwy amrywiaeth eang o wasanaethau a mentrau.

Wedi’i sefydlu gyntaf yn 2003, rydym yn dîm craidd bach gyda mwy o gyrhaeddiad ac effaith wrth i ni weithio ochr yn ochr a thrwy ein haelodau, cronfa fawr a chynyddol o fentoriaid cymheiriaid, ac amrywiaeth o bartneriaid profiadol ledled Cymru.

Pam gweithio i ni?

Trwy ymuno â CYD Cymru byddwch yn cael cyfle i effeithio ar newid mawr. Mae pobl yn gweithio i ni os ydyn nhw’n credu yng ngrym cymuned, menter gymdeithasol a gweithredu lleol. Mae diddordeb mewn polisi i’w groesawu, ond mae angerdd am weithredu ymarferol yn hollbwysig.

Gweler y manylion ar gyfer ein swyddi sydd ar gael isod:

 

Swyddog Cyfathrebu, Egin / DTA Cymru – dyddiad cau canol dydd, dydd Mercher 6 Mawrth, cyfweliadau 12 a 13 Mawrth

Rydym yn chwilio am weithiwr proffesiynol medrus ac addasadwy i ddarparu cefnogaeth gyfathrebu atyniadol i CYD Cymru a’n rhaglen Egin (www.egin.org.uk). Mae arnom angen rhywun sy’n rhagori ar adrodd straeon i gyfleu pŵer gweithredu cymunedol trwy ystod o lwyfannau a mathau o gynnwys, gan gynnwys cylchlythyrau, cyfryngau cymdeithasol, astudiaethau achos a’n platfform cymunedol ar-lein (a gynhelir ar Hivebrite). Mae bod yn rhugl yn y Gymraeg yn hanfodol i’r rôl hon.

Cyflog: £28,000 CALl/FTE (0.6)

Diwrnodau’r wythnos: 0.6 CALl – 3 diwrnod yr wythnos / 21 awr yr wythnos – gellir gweithio hyn yn hyblyg ar draws yr wythnos, er ein bod yn gofyn i chi fod ar gael ar ein diwrnod craidd o ddydd Iau rhwng 10am a 4pm.

Tymor y contract: 1 flwyddyn i ddechrau gyda’r bwriad o ymestyn yn amodol ar gyllid

Oriau gwaith: 7 awr y dydd. Mae CYD Cymru yn gosod oriau swyddfa craidd rhwng 10am a 4pm ond mae’n cynnig hyblygrwydd trwy negodi gyda rheolwyr llinell. Mae’n bosibl y bydd angen gweithio gyda’r hwyr a thros y penwythnos o bryd i’w gilydd er mwyn bodloni anghenion y rôl.

Lleoliad gwaith: Mae CYD Cymru yn cadw swyddfa yng Nghaerdydd. Cefnogir gweithio gartref – neu gyda chefnogaeth i weithio o ‘ganolfan leol i’ch swyddfa’ – unrhyw le yng Nghymru neu o fewn cyrraedd hawdd i Gymru.

Pecyn swydd: Pecyn Swyddog Cyfathrebu Egin/CYD Cymru (cliciwch i lawrlwytho)
Ffurflen Gais: Ffurflen Gais Cymraeg (cliciwch i lawrlwytho)

E-bostiwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau i info@dtawales.org.uk erbyn y 6ed o Fawrth

 

Swyddog Caffael a Gwerth Cymdeithasol – dyddiad cau canol dydd Mawrth 13eg 2024, cyfweliadau 19eg a 20fed Mawrth

Mae CYD Cymru yn chwilio am rywun sy’n gyfathrebwr ac yn hwylusydd rhagorol, a all roi caffael ar waith i helpu mentrau cymdeithasol i archwilio contractau fel modd o incwm cynaliadwy.  Bydd angen i’r person hwnnw feddwl y tu allan i’r bocs i gefnogi ein darpariaeth barhaus o brosiectau yn ogystal â helpu i ddatblygu gwasanaethau taledig cynaliadwy i aelodau ac eraill gael mynediad atynt (i helpu i gynnal y rôl). Byddai profiad o frocera sgyrsiau gydag Awdurdodau Lleol a dangos gwerth cymdeithasol, yn ogystal â dealltwriaeth o gonsortia yn ddefnyddiol.

Mae’r rôl hon yn rhan o sawl prosiect, a bydd yn cynnwys amrywiaeth o ddarpariaeth uniongyrchol

Cyflog: £28,000 CALl/FTE (0.6)

Diwrnodau’r wythnos: 0.6 CALl – 3 diwrnod yr wythnos / 21 awr yr wythnos – gellir gweithio hyn yn hyblyg ar draws yr wythnos, er ein bod yn gofyn i chi fod ar gael ar ein diwrnod craidd o ddydd Iau rhwng 10am a 4pm.

Tymor y contract: Parhaol (yn dibynnu ar gyllid)

Oriau gwaith: 7 awr y dydd. Mae CYD Cymru yn gosod oriau swyddfa craidd rhwng 10am a 4pm ond mae’n cynnig hyblygrwydd trwy negodi gyda rheolwyr llinell. Mae’n bosibl y bydd angen gweithio gyda’r hwyr a thros y penwythnos o bryd i’w gilydd er mwyn bodloni anghenion y rôl.

Lleoliad gwaith: Mae CYD Cymru yn cadw swyddfa yng Nghaerdydd. Cefnogir gweithio gartref – neu gyda chefnogaeth i weithio o ‘ganolfan leol i’ch swyddfa’ – unrhyw le yng Nghymru neu o fewn cyrraedd hawdd i Gymru.

Pecyn swydd: Pecyn Swydd – Swyddog Caffael a Gwerth Cymdeithasol (cliciwch i lawrlwytho)
Ffurflen Gais: Ffurflen Gais Cymraeg (cliciwch i lawrlwytho)

E-bostiwch ffurflenni cais wedi’u cwblhau i info@dtawales.org.uk erbyn y 6ed o Fawrth

 

 

 

print