Cyhoeddi’r ffenestr ymgeisio ddiweddaraf ar gyfer y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol

dyddiad 02.08.2023
Oes adeilad neu dir o werth i’ch cymuned mewn perygl o gael ei gau neu ei golli?
Ffenestr ymgeisio nesaf ar gyfer y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol fydd 30 Awst – 11 Hydref.
Mae CYD Cymru yn un o 10 sefydliad cymorth cymunedol blaenllaw sy’n cyfuno ein gwybodaeth a’n sgiliau i helpu darpar ymgeiswyr i ddatblygu eu cynigion prosiect a gwneud cais i’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Rhyngom rydym yn cwmpasu’r DU gyfan; cynnig sylfaen wybodaeth ddofn a phrofiad o weithio gyda sefydliadau i ddatblygu ystod o asedau cymunedol.

Darganfyddwch a yw’r gronfa’n addas ar gyfer eich sefydliad a sut y gallwn helpu drwy fynd i dudalen swyddogol rhaglen cymorth y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yma. 

Byddym yn arwain gweminar am Sut i Ysgrifennu Cais Cryf (Cyflwyno Eich Achos Rheoli) ar 14eg o Fedi, 1-3pm. Darperir manylion llawn yr holl weminarau gwybodaeth gan y partneriaid cyflawni yn fuan ar safle we MyCommunity. Yn y gyfamser, efallai bydd y fideo o’n gweminar ym mis Mai o ddefnydd – gallwch wylio’r recordiad yma (yn Saesneg).

print