Fedrwch chi helpu eraill i weithredu ar newid hinsawdd a chynaladwyedd?

dyddiad 19.09.2022

Mentoriaid cyfoed sydd wrth galon ein gwaith yma yng Nghymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu (DTA) Cymru. Mae ein mentoriaid cyfoed yn cefnogi, grymuso a datblygu gallu grwpiau cymunedol i gyrraedd eu nod.

Bydd rhaglen newydd, sydd heb enw cyhoeddus eto, yn cael ei lansio yn fuan yn 2023 i gefnogi gweithredu cymunedol ar newid hinsawdd a chynaladwyedd. Nawr, rydym angen creu ein pwll o fentoriaid cyfoed.

Os oes gennych chi brofiad o weithio gyda grwpiau cymunedol yng Nghymru, gyda sgiliau a gwybodaeth rydych chi’n awyddus ei rannu gydag eraill, yna beth am wneud cais?

Mae mentoriaid cyfoed yn cael eu talu am y gwaith a wnânt. Cânt eu cynnal naill ai gan sefydliad trydydd sector neu dan gontract uniongyrchol gan DTA Cymru. Nid oes unrhyw sicrwydd y bydd Mentor Cyfoed penodol yn derbyn unrhyw aseiniadau i gefnogi grŵp. Ceir y rhaglen ei redeg yn ôl galw ac mewn ymateb i geisiadau fel y maent yn dod i fynu.

Disgrifiad ac Arweiniad o Rôl Mentor Cyfoed

Am wybodaeth bellach am y cyfle ac am yr hyn sydd ynghlwm â bod yn fentor cyfoed, cofrestrwch am un o’r sesiynau ar-lein canlynol:

  • Dydd Sadwrn 12 Tachwedd 2pm : Cofrestru yma
  • Dydd Mawrth 22 Tachwedd 8pm : Cofrestru yma

Bydd y sesiwn yn cael ei gynnal yn Saesneg a disgwylir na fydd yn cymryd mwy nag 90 munud. Byddem yn derbyn ceisiadau yn dilyn y sesiynau yma hyd at ddydd Llun 2 Ionawr 2023

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn gwneud cais, neu eisiau gwybodaeth bellach, ond ddim yn gallu mynychu un o’r sesiynau uchod, yna cysylltwch â info@dtawales.org.uk.

Byddwn yn cynnal sesiwn hyfforddi/cynefino ar-lein i ymgeiswyr llwyddiannus Dydd Iau y 26 Ionawr.

Mae’r rhaglen yma yn defnyddio cronfa Cyfrifon Segur Llywodraeth Cymru ac yn cael ei weinyddu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

print