Llongyfarchiadau i Arts Factory ar eu Grant Costau Byw!

dyddiad 12.06.2023

Anogwyd aelodau CYDCymru, yn ogystal ag aelodau o Locality, DT Gogledd Iwerddon neu DTA yr Alban yn ôl ym mis Chwefror i wneud cais am grant o £10,000 i helpu gyda chostau byw.

Codwyd yr arian drwy apêl elusennol flynyddol y Guardian a’r Observer i helpu sefydliadau cymunedol sy’n ymdrechu’n galed i gefnogi eu cymunedau drwy’r argyfwng costau byw, tra hefyd yn wynebu cynnydd mewn costau eu hunain.

Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod Arts Factory yn un o’r sefydliadau sydd wedi’u cymeradwyo i dderbyn y grant Costau Byw.

Mae Arts Factory yn bodoli i greu cyfleoedd sy’n newid bywydau unigolion sy’n teimlo eu bod wedi’u diystyru yn ein cymunedau sydd eisoes dan anfantais. Maent yn trin pawb fel asedau gwerthfawr ac maent wedi adeiladu sefydliad sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn y gall unigolion ddibynnu arno cyhyd ag y mae ei angen arnynt. Eu his-bennawd yw ‘dim mwy o bobl tafladwy’ ac mae croeso i bawb yn Arts Factory.

Dyma beth maen nhw’n ei ddweud:

“Bydd y grant costau byw yn cael ei ddefnyddio i adeiladu cymuned gryfach, fwy cynhwysol trwy greu cyfleoedd i bobl sydd wedi’u hymyleiddio a’u hallgáu i ddatblygu sgiliau, rhwydweithiau cymdeithasol cefnogol, hunanhyder a hunan-barch. Mae’r galw am gymorth, cyngor , ac arweiniad wedi cynyddu o fewn y gymuned oherwydd yr argyfwng costau byw a olygai fod angen i ni ddarparu gwasanaethau i gynorthwyo unigolion a theuluoedd

“Mae’r grant wedi caniatáu i ni gynyddu ein sesiynau cymorth argyfwng costau byw, cynnig gofod cynnes a diogel ar draws ein dwy hyb cymunedol, dyblu ein harlwy cymunedol a darparu Clybiau Iechyd a Lles, Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, sesiynau Rhiant a Phlentyn, cyfleoedd gwirfoddoli, Cyngor ar Ynni a Budd-daliadau, a helpu pobl i gael mynediad at grantiau a thaliadau argyfwng. Yn ogystal, rydym hefyd yn cynnig parseli bwyd cost isel ac yn bartner a chanolfan ddosbarthu ar gyfer Banc Bwyd y Rhondda ac yn cynnig sesiynau CAB a chwnsela mewnol.”

Byddwn yn cyhoeddi aelodau eraill CYD Cymru sydd wedi derbyn y grant yn fuan!

print